Lleoliad:
Fideo Gynhadledd Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2021
Amser:
09.04 -
09.52
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Siân Gwenllian AS Mark Isherwood AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at newid i fusnes dydd Mawrth i symud yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) i ddiwedd y dydd.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif
4) (Cymru) 2021 (15 munud)
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Dydd Mercher 10 Chwefror 2021
· Dadl: Cyfnod 3 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (60 munud)
· Dadl: Cyfnod 4 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (15 munud)
Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021
· Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (5 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ddechrau am 1pm ar 9 Chwefror, gyda'r Cyfarfod Llawn yn dechrau ar ôl iddo ddod i ben. Bydd y Cyfarfod Llawn hefyd yn dechrau am 1pm ar 10 Chwefror.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 10 Chwefror 2021 -
·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan
Aelod (30 munud) -
gohiriwyd tan 24 Chwefror
·
Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (30 munud) - gohiriwyd tan 24 Chwefror
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(30 munud) –
gohiriwyd tan 24 Chwefrord
·
Dadl Fer – David Melding
(Canol De Cymru) – gohiriwyd tan 24 Chwefror
Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 -
· Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru (45 munud)
·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan
Aelod (30 munud) -
gohiriwyd o 10 Chwefror
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud) - gohiriwyd o 10 Chwefror
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(30 munud) –
gohiriwyd o 10 Chwefror
·
Amser a neilltuwyd i Grŵp y
Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)
- gohiriwyd tan 3
Mawrth
·
Dadl Fer – David Melding
(Canol De Cymru) – gohiriwyd o 10 Chwefror
Dydd Mercher 3 Mawrth 2021 –
· Cynnig i Ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu? (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud) - gohiriwyd o 24 Chwefror
Diolchodd y Trefnydd i'r Rheolwyr Busnes am symud busnes y Senedd i wneud lle i ddeddfwriaeth y llywodraeth.
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol gan Aelod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Chwefror:
NNDM7478 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;
b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a
d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd mai hwn fyddai'r Cynnig Deddfwriaethol olaf gan Aelod i gael ei amserlennu cyn y diddymiad.
3.5 Eitem o fusnes ar y cyd - Senedd Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr eitem o fusnes ar y cyd ar 24 Chwefror 2021, i ddechrau am 12:45 ac i’w chymryd cyn busnes y llywodraeth.
3.6 Llythyr oddi wrth Llyr Gruffydd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y Cynnig i Ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar 3 Mawrth 2021.
4 Pwyllgorau
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl 30 munud ar ddwy ddeiseb – 'P-05-1117 Rhoi'r Brechiad Covid i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth' a 'P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, staff ysgol a gofal plant ar gyfer brechiad COVID-19', a dadl 30 munud arall ar 'P-05-1078 Cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!
5 Deddfwriaeth
5.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 8 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
5.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 8 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
5.3 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Fusnes y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor y dylai'r Senedd ddechrau ar gyfnod o doriad o 7 Ebrill tan 28 Ebrill 2021 a elwir yn gyfnod 'cyn y diddymiad', ac y dylai busnes y Senedd yn ystod y cyfnod hwn gael ei gyfyngu i'r hyn sy'n gysylltiedig â dibenion penodol y diddymiad byrrach fel yr amlinellir yn y Bil.
Nododd y Pwyllgor, pe bai'r Bil yn cael ei basio, y bydd cynigion manwl yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yn ei gyfarfod naill ai ar 22 Chwefror neu 1 Mawrth.
Cytunodd y Trefnydd i ddosbarthu canllawiau 'purdah' Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfnod yr etholiad (toriad cyn y diddymiad a’r diddymiad) i Reolwyr Busnes.
Unrhyw faterion eraill
Bil yr Amgylchedd
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod ystyriaeth o Fil yr Amgylchedd bellach wedi'i rhewi tan y sesiwn seneddol nesaf, ac y byddai swyddogion yn trafod dyddiad cau diwygiedig ar gyfer adrodd ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2).